MAY YOU LIVE IN INTERESTING TIMES: Cynhadledd

Canolfan Gelfyddydau Chapter, Hydref 28/29

£50 diwrnod / £90 penwythnos - sefydliadau
£30 diwrnod / £50 penwythnos - bwcio o flaen llaw (cyn Hydref 7)

£20 diwrnod / £30 penwythnos - unigolion / gostyngiadau
£15 diwrnod / £25 penwythnos - bwcio o flaen llaw (cyn Hydref 7)

Fe fydd yr Ŵyl Technoleg Greadigol yn cyflwyno panel rhyngwladol o siaradwyr fydd yn archwilio themâu’r ŵyl a’r rhaglen estynedig. Fe fydd y siaradwyr a’r cyfranwyr hyn yn cynnwys artistiaid, curaduron, datblygwyr technoleg, cynhyrchwyr, beirniaid a damcaniaethwyr sydd yn arwain rhaglenni arloesol o ran gwaith ac ymchwil, gan ganolbwyntio ar gyd-destun yn y broses o gomisiynu darnau celf, natur chwarae a phynciau yn ymwneud â lleoliad a safleoedd cyfoes.

Dros ddau ddiwrnod, fe fydd amrywiaeth eang a heriol o gyflwyniadau, sesiynau wyneb-yn-wyneb, sgyrsiau panel a sesiynau meic-agored yn creu llwyfan ar gyfer trafodaeth fywiog, gyfoes.

Ewch i dudalen rhaglen y gynhadledd i weld manylion y siaradwyr yn llawn.

Er mwyn archebu tocynnau cysylltwch â Gordon Dalton os gwelwch yn dda, ar 029 20 311059
gordon@mayyouliveininterestingtimes.org.

neu gallwch archebu trwy we-fan Chapter we-fan Chapter.

Fe fydd ffurflen archebu ar gael i’w hall-lwytho cyn hir.