Ynglŷn â

MAY YOU LIVE IN INTERESTING TIMES yw Gŵyl Technoleg Greadigol gyntaf Caerdydd - tri diwrnod o ddigwyddiadau gaiff eu cynnal ar hyd a lled y brifddinas. Mae’r ŵyl yn cael ei datblygu rhwng Bloc (Technoleg Greadigol Cymru) a Chapter ac fe fydd yn cynnwys cynhadledd dau-ddiwrnod, comisiynau newydd, cyfleoedd i artistiaid preswyl, dangosiadau a phrosiectau gan artistiaid mewn mannau cyhoeddus ledled y ddinas.

Yn gynyddol y dyddiau hyn, mae artistiaid yn ymwneud fwy-fwy â, neu yn cael eu hysbrydoli gan dechnoleg ddigidol – maent yn archwilio technolegau cyfathrebu a thechnolegau’r defnyddiwr fel y we-fyd-eang, rhwydweithiau symudol, rhannu ffeiliau a gemau cyfrifiadurol. Oherwydd natur technoleg ddigidol – y mae’n gyfrwng sydd yn annog cymryd rhan – mae artistiaid yn tueddu i archwilio technoleg ddigidol yng nghyd-destun gofodau cyhoeddus. Yn aml fe leolir celfyddyd ddigidol yn y gofod rhwng celfyddyd gyhoeddus a diwylliant y stryd, lle defnyddir y dechnoleg ei hun fel ‘safle’ ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno gweithiau celfyddydol. Er yr honni yn aml bod technoleg ddigidol yn mynd y tu hwnt i gyfyngiadau corfforol, mae’r ymwneud â thechnoleg yn gorfod digwydd mewn gofodau go iawn, boed y rheiny’n ofodau gaiff eu harchwilio o bersbectif y defnyddiwr neu o bersbectif y rhwydwaith.

Artistiaid yn cynnwys: Blast Theory, Anri Sala, Grennan & Sperandio, TJ Wilcox, Jen Southern & Jen Hamilton, Scanner, Sarah Morris, Michelle Teran, Eddo Stern, Stefhan Caddick, Nina Pope & Karen Guthrie, Tim Davies, Rosalind Nashashibi, Tennantspin, Andy Fung, Paddy Jolley, Mircea Cantor, STAR Radio, Valérie Jouve, Chris Evans, Mike Mills, Artstation, and many more.

Diwrnod 1 y Gynhadledd: Hydref 28 - Cyfryngau lleoliadol a Safleoedd
Siaradwyr yn cynnwys: Yr Athro Michael Corris, Pennaeth Adran Gelfyddyd a Ffotograffiaeth, Prifysgol Casnewydd; Claire Doherty, Cyfarwyddwr, Situations; Nina Pope, artist; Heath Bunting, artist; Giles Lane, Proboscis; Martin Flintham, Athro Cyfrifiadureg Cydweithrediadol, Prifysgol Nottingham; Dr Sarah Green, Anthropolegydd Cymdeithasol, Prifysgol Manceinion; Jen Southern & Jen Hamilton, artistiaid.

Diwrnod 2 y Gynhadledd: Hydref 29 - Gemau Cyfrifiadurol
Siaradwyr yn cynnwys: Ju Row Farr, artist, Blast Theory; Stuart Nolan, ymchwilydd; Christopher Sperandio, artist; Eddo Stern, artist; David Surman, Darlithydd Dylunio Gemau Cyfrifiadurol, Prifysgol Casnewydd; Alex Mayhew & Emma Westecott, Cynhyrchwyr a Chyfarwyddwyr Gemau.

Parti, Y Point, Caerdydd, Hydref 29, 8yh:
Gwesteion Arbennig Iawn + Scanner, Michelle Teran, Proober Glombat, Cymbient + DJs

I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen a’r gynhadledd cysylltwch â:
Gordon Dalton, Cydlynydd yr Wyl: gordon@mayyouliveininterestingtimes.org
+44 (0) 29 2031 1059 / 0779 234 1654

Cyflwynir yr wyl gyda chefnogaeth:

Caerdydd 2005, Cyngor Sir Caerdydd, Comisiwn y Mileniwm, Cyngor Celfyddydau Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Cywaith Cymru . Artworks Wales, BBCi, Creative Mwldan, Mute, G39, Gwesty’r Big Sleep, Elfen, Zenith Media, P C Casnewydd, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Sequence, Cool Pants, Ping Wales, Oriel Mostyn, NESTA a @Wales